Y Siop Dsips yng Nghas-gwent (II)

Wel, dw i wedi bod draw yng Nghas-gwent ar drywydd siop dsips! A do, ffindes i un (gweler y llun gyferbyn). Uniaith Saesneg oedd yr arwydd a doedd dim gair o Gymraeg ar y fwydlen y tu fewn nag i'w glywed gan y staff na'r cwsmeriaid eraill. Ond, does dim byd rhyfedd yn hynny. Mae 'na siopau tsips tebyg ar draws y wlad - hyd yn oed yn y Gorllewin ger y lli! A bod yn onest, doedd proffil gweledol y Gymraeg yng Nghas-gwent ddim yn annhebyg i broffil yr iaith mewn lleoedd eraill lle mae canran uwch o lawer o siaradwyr Cymraeg. Roedd arwyddion y sector cyhoeddus at ei gilydd yn ddwyieithog - Canolfan Byd Gwaith, yr Heddlu, Cadw (ar gyfer y castell wrth gwrs - er doedd dim arweinlyfr Cymraeg ar gael...), y Ganolfan Groeso. Roedd arwyddion y cyfleustodau fel y rheilffyrdd a'r post hefyd yn ddwyieithog. Fel pob man y dyddiau hyn, roedd yno siop Tesco, gyda lefel o ddwyieithrwydd fyddai'n rhoi rhai o ganghennau'r brifddinas yn y cysgod. Roedd yr iaith yn brigo i'r wyneb yn Boots a W H Smith a'r banciau yn yr un ffordd. Geiriau (Cymraeg) gan Menna Elfyn, ymhlith eraill, yn addurno'r cerfluniau yn y Stryd Fawr. Roedd modd llymeitan yn Afon Gwy (y dafarn nid yr afon) a bwrw'r nos yn Ty Munud Diwethaf. Te "Cymreig" oedd yn nhebotiau St Mary's Street Tea Rooms ac roedd modd bwyta Welsh Breakfast yn un o'r tafarnau/bwytai. Ydy, mae Lloegr ochr draw i'r afon, ond mae Cas-gwent yng Nghymru.
Wrth edrych ar y botel hanner wag, mae'n dristwch bod ardaloedd eraill o Gymru lle mae'r iaith yn gyfrwng cymunedol fawr nes ymlaen na Chas-gwent o ran croesawu'r iaith i'r arena gyhoeddus. Dyna pam mae angen hwb mawr ymlaen - fel y 2.3 miliwn ewro y mae Llywodraeth Gwlad y Basg wedi neilltuo i hyrwyddo'r Fasgeg yn y gweithle!!! (Tybed ydy Thomas cook yn masnachu yno?) Mae'n glir bod Llafur Prydain yn gweld y Gymraeg fel iaith y gegin, iaith y buarth, ac iaith yr ysgol, ond heb fod yn ddigon parchus i gymryd ei lle ym myd mawr yr oedolion.
Bydd Gwenda Thomas yn parhau i hiraethu am dafotieth y



Wrth edrych ar y botel yn hanner llawn, o ystyried bod Lloegr namyn herc, cam a naid dros y bont, mae'n syndod pa mor Gymreig mae Cas-newydd yn teimlo. Er yr holl arwyddion Cymraeg dros y lle i gyd, doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw wrthryfel yn eu herbyn yn mudferwi ar lannau afon Gwy. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi llwyddo i stwffio'r arywddion dim ysmygu dwyieithog i bob man yn y wlad, heb eithrio Cas-gwent, drwy ddeddfwriaeth. Dw i'n siwr bod nifer wedi cwyno, ond pwy nad yw'n hoffi cwyno? Petai'r siop dsips rywbryd yn y dyfodol yn gorfod gwneud peth darpariaeth yn Gymraeg e.e. ychwanegu'r geiriau 'psygod a sglodion' i'r arwydd a rhoi bwydlen Gymraeg y tu fewn, a phetai modd i'r siop gael cymorth i wneud hynny drwy ryw ostyngiad yn y trethi busnes, dw i'n amau'n fawr a fyddai yna chwyldro yng Nghas-gwent. (Yn un peth, mae'r perchennog yn ymddangos yn oleuedig iawn mewn ffyrdd eraill drwy ei ymdrechion 'gwyrdd'). Codi dychryn yn ddi-sail y mae Rhodri Morgan a'i griw yn y ffordd mwyaf dan-din er mwyn hollti'r wlad. Yr unig ffordd yr erys y Blaid honno mewn grym yw bod yn blaid 'Southwales'. Hanfod 'Southwales' yw: dim Cymraeg.
0 Sylw:
Ychwanegu sylw
<< Hafan