Y Siop Dsips yng Nghas-gwent
Cwbl warthus oedd sylwadau ysgafala Rhodri Morgan yn y Senedd y diwrnod o'r blaen am y siop dships yng Nghas-gwent a'r Mesur Iaith newydd. Mae'n amlwg nad yw Mr Morgan na Mr Jones wedi darllen Mesur drafft y Gymdeithas neu fydden nhw ddim yn ei lurgunio drwy fynnu ei fod yn argymell gorfodi pob busnes i weithredu yn uniaith Gymraeg cyn gynted ag y deuai'r Mesur i rym. Y gwir yw bod y Mesur yn cymryd ystyriaeth o natur darparwr y gwasanaeth a natur ieithyddol yr ardal lle mae cwsmeriaid yn byw. Er enghraifft, ni ddisgwylid yr un lefel o wasanaeth yn Gymraeg gan fusnes oedd yn gwerthu deunyddiau rhwymo llyfrau yn Llanandras â siop fara yng Nghaernarfon. Byddai'r Mesur yn sicrhau bod 'na lefel sylfaenol o wasanaeth yn Gymraeg y gallai pawb yng Nghymru ddisgwyl ei gael gan bob darparwr, ond byddai manylion y lefelau uwch i'w pennu gan gorff cynrychioliadol a democrataidd. Gorfodaeth unffurf?
Lle mae'r Gymdeithas yn siarad yn aeddfed am hyblygrwydd, mae Llafur Prydain yn sôn yn blentynnaidd am ddewis rhwng gorfodaeth unffurf neu wneud bygar ôl. Dyna yw "dewis" iddyn nhw. Lle mae'r Gymdeithas actiwiali wedi eistedd i lawr a thrafod a llunio dogfen, beth mae Llafur Prydain wedi cynnig i'r broses? Y jôc o ddogfen o'r enw "Iaith Pawb"?
Petawn i'n byw yng Nghas-gwent, byddwn i'n grac iawn bod Rhodri Morgan wedi dweud (1) nad oes gan rhyw 10% i boblogaeth y dref (9.3 yn ôl y cyfrifiad diwethaf) unrhyw hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn siop dsips (2) nad oes neb o blith y 1000 o siaradwyr Cymraeg yn y dref ddigon o allu yn yr iaith i ofyn am dsips yn Gymraeg na deall yr ateb; a (3) bod trigolion y dref a pherchnogion y siopau tsips yn arbennig, mor wrth-Gymraeg fel y byddent yn barod i dorri'r gyfraith yn hytrach na dangos bwydlen yn Gymraeg yn y siop wedi cyfnod rhesymol o amser i wneud hynny.
Sut yn y byd mae aelodau o Blaid Cymru yn meddwl o ddifrif am mynd i glymblaid gyda chiwed mor dwp ac anegwyddorol â Llafur Prydain?
0 Sylw:
Ychwanegu sylw
<< Hafan