Pigogflog

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

dissabte, de juliol 29, 2006

Deddfwriaethu am y tro cyntaf ers Hywel Dda?

Mawr oedd y sôn ar y newyddion (BBC) a chan ein Llywydd (DET) bod pasio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn golygu y bydd deddfau yn ein cael eu llunio ar dir Cymru gan Gymry am y tro cyntaf ers Hywel Dda. Dw i ddim yn arbenigwr ar hanes cyfraith Cymru, ond doeddwn i ddim yn meddwl taw cyfraith statud oedd cyfraith Hywel Dda. Ar ben hynny, o fewn system gyfreithiol Cymru a Lloegr y bydd Mesurau'r Cynulliad yn cael eu gwneud, felly fyddan nhw ddim mor wahanol o ran cynnwys, ffurf a phroses ag roedd cyfraith Hywel Dda i gyfraith Lloegr. Hynny yw, byddan nhw'n edrych yn debyg i ddeddfau sy'n cael eu gwneud ym Mhyrdain ar hyn o bryd a byddan nhw'n delio â'r un mathau o beth. Ond yn fwy na hyn oll, mae'r Cynulliad wedi bod wrthi yn deddfwriaethu, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ers 1999. Mae'n wir taw is-ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei llunio hyd yn hyn, ond mae is-ddeddfwriaeth yn ddeddfwriaeth fel y byddai unrhyw un sy'n gweithredu yn groes iddi yn cael gwybod.