Pigogflog

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

divendres, de juliol 28, 2006

Plus ça change....perswadio busnes..siwrne 'to




Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi strategaeth arall! A beth am hynny? Wel, mae'n delio gyda'r Gymraeg yn y sector preifat. Ydy hi? Ydy, mae hynna'n gam mawr ymlaen, ond ydy? Wel, nac ydy...maen nhw'n gwneud hynny bob hyn a hyn, ond does neb yn cymryd sylw.

Ymhell bell yn ôl yn y mileniwm diwethaf (1989) cyhoeddodd corff o'r enw Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddogfen o dan y teitl Dewisiadau Ymarferol ar Gyfer Defnyddio'r Gymraeg mewn Busnes. Yn y ddogfen ceir 21 o awgrymiadau ynghylch sut i ddefnyddio'r Gymraeg mewn busnes. Mae'r saith cyntaf yng Nghylch 1, sef y lefel waelodol - effeithiol a chost isel; yr ail set o saith yng Nghylch 2, sy'n dangos cefnogaeth gadarnhaol, eto heb gost na phroblemau mawr; ac yna, Cylch 3, y trydydd set o saith, sy'n gofyn am 'ymroddiad rhesymol ond gweithredol'.

I roi blas o'r hyn sydd yn y cylchoedd gwahanol, mae dewis 1 (Cylch 1) yn awgrymu cynnwys rhywfaint o Gymraeg ar bapur ysgrifennu (rhaid i'r bobl ifanc gofio nad oedd gwefannau ac e-byst yn bodoli bryd hynny); dewis 13 (Cylch 2), sef "anogwch eich staff i ateb y teleffon yn ddwyieithog"; a dewis 16 (Cylch 3), sef "atebwch ohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg". Yn y nodyn ar "gyrraedd yr amcanion", dywedir "Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn derbyn mai proses raddol fydd gweithredu'r canllawiau". Roedd hynny yn 1989.


Anfonwyd y canllawiau hyn at 1000 o gwmniau. Erbyn canol 1990 cafwyd ymateb ffafriol gan 10% o'r cwmniau hyn. Gwnaeth y cylchgrawn Golwg arolwg o 30 o'r 100 cwmni a atebodd yn gadarnahol flwyddyn ar ôl cyhoeddi'r canllawiau. Arolywgyd busnesau fel banciau, siopau'r cyfleustodau, siopau cadwyn ac archfarchadeodd ym Mhorthmadog, Caerfyrddin a Chaerdydd. Siomedig oedd y canlyniad o edrych ar y pum "dewis" mwyaf sylfaenol a daeth Golwg i'r casgliad "mai hap a damwain yn hytrach na pholisiau cyson sy'n penderfynu o ba raddau y mae delwedd a gwasanaeth dwyieithog ar gael". Roedd hynny yn 1990, ond tybed i ba raddau y byddai'r canlyniad yn wahanol pe gwneid yr un arolwg eto?

Mae 17 o flyndydoedd wedi pasio ers cyhoeddi'r canllawiau hyn. Canllawiau gwirfoddol oedden nhw. Bryd hynny, roedd y mudiad Cefn wedi arwain ymgyrch ddygn yn erbyn BT a chafwyd rhywfaint o fuddugoliaeth. Bryd hynny, BT oedd yr unig cwmni ffonau yn y wlad! Erbyn hyn, mae dewis o bron 20 cwmni ar gyfer ffonau yn y ty, heb sôn am ffonau symudol. Mae newid tebyg wedi digwydd ym maes trydan a nwy, lle gynt roedd Nwy Prydain, Manweb a Swalec i ddelio â nhw, erbyn hyn mae dros 15 o gwmniau pwer. Er gwaethaf 17 mlynedd o berswâd gan y Bwrdd, y cyfan o wasnaeth Cymraeg a geir yn y sector breifat yw ambell beth fel bil Cymraeg (os ydych chi'n gofyn amdano) gan yr hen gwmniau cyn-rhyddfrydoli, fel arall does dim cynnydd o gwbl.

17 mlynedd yn ôl mynegodd y CBI bryder am effaith polisi iaith o blaid y Gymraeg ar ddyfodol diwydiant yn y wlad. Maen nhw'n dal i wneud:

The CBI therefore urges the Assembly Government to maintain its stance on the current Welsh Language provisions, and the current voluntary approach assumed by businesses, under these new arrangements, and to resist calls for a new Welsh Language Act. Pwy sy'n dweud nad yw Alun Pugh yn gwrando?