Pigogflog

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

dissabte, d’agost 12, 2006

Twt lol!


Mae dimLOL yn ffac o depressing read! Odd na pethe da yndo fe - gwnaeth Colofn Gas Gwilym Owen wneud i fi wyrthin, stori dda odd yr un am fan ordrom y Llyfrgell Genedlaethol, a cododd 'Trafferthion Teifi' wên - ond odd wir eisie ailbobi helyntion pornograffaidd Rhodri Ogwen? Hen newyddion...a so what? Mae'r boi yn lico snortio a ffwcio - yw e'n unigryw? Oddwn i eisie gwbod am brynu pans o Next? (Os yw gwisgo pans o Next i fod yn affrodisiac, mae gen i lot i ddysgu am arferion caru pilgwns mae rhaid!). A beth oedd pwynt y thing na am clwb gay yn Sbaen? Rhywun yn cael ffeit yn y Cwps? Waw! Er gwaethaf ambell i beth treiddiol a doniol, mae dal rhyw hen gulni ffug-werinol yn gefndir i'r cyfan. Digon o tits, ffani, birds, cachu, rhechu, gays a poofs a wiw i chi ddangos diddordeb mewn unrhyw beth i tu draw i Glawdd Offa -y ffacin fforinyrs ddiawl! Come on guys, cael real!

2 Sylw:

dywedodd Blogger Ray Diota

Blog rhagorol 'da ti... ;-) lenwai'r ffacin cylchgrawn 'da saeson tro nesa, pigogflogiwr!

sws! :-)

12:31 p. m.  
dywedodd Blogger pigogyn

Jiw! Dim ond nawr dw i'n gweld dy sylw! Hihi..edrychaf ymlaen at weld adrodd am y campau Saesonaeg y tro nesaf ;-) x

6:45 p. m.  

Ychwanegu sylw

<< Hafan