Pigogflog

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

dimecres, de juliol 26, 2006

Llafur newydd, busnes mawr



Dyw strategaeth newydd Bwrdd yr Iaith ar y Gymraeg yn y sector preifat ddim yn syndod i neb. Rhygnu ar yr un hen dant fethedig "perswâd nid gorfodaeth" y mae. Hwyrach bod rhyw ddêl rhwng Alun Pugh a'r Bwrdd yn yr arfaeth achos mae'r ddogfen yn canu'n ffyddlon o lyfr emynau Llafur Newydd ac yn fwy dof na llawer o ddatganiadau diweddar y Bwrdd. Mae'n wir nad yw'r Bwrdd yn cau'r drws yn llwyr ar orfodaeth drwy ddeddfwriaeth drwy fynnu ei fod wedi galw’n gyson am ymestyn y ddeddfwriaeth gyfredol (Deddf 1993) i gwmpasu "gwasanaethau o natur gyhoeddus a ddarperir gan y Sector Preifat" ac mae'n canmol Llywodraeth y Cynulliad am ddangos arweiniad yn y maes hwn drwy ddod â rhai o’r cyfleustodau ymysg y cyrff y disgwylir iddynt baratoi Cynlluniau Iaith Gymraeg. Ond pwylais y datganiad i'r wasg yw: dim deddfwriaeth.

Dim deddfwriaeth ond cwmnïau mawrion a busnesau bach yw’r prif negeseuon fydd yn cael eu cyhoeddi yn lansiad Strategaeth Sector Preifat Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Mercher 26 Gorffennaf am 10.30 am.

Rwy'n cymryd bod y cyfeiriad at "rhai o'r cyfleustodau" uchod yn gyfeiriad at y cwmniau dwr. Ddwy flynedd yn ôl pennwyd cwmniau cyflenwi dwr yng Nghymru yn gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf yr Iaith. Faint o gwmniau dwr sydd yn gwasanaethu Cymru? Dau. Dwr Cymru a Severn Trent Water Ltd.. Faint o'r ddau oedd eisoes yn cynnig gwasanaeth yn Gymraeg cyn 2004? Un, sef Dwr Cymru. Ydy Hafren Trent yn cynnig gwasanaeth yn Gymraeg nawr? Wel, os taw Saesneg yw eich ail iaith gallwch chi ffonio Hafren Trent a gofyn i rywun gyfieithu'ech bil dwr dwr drso y ffôn. (Wn i ddim sut mae'n disgwyl ichi brofi mai Saesneg yw eich ail iaith...). Oes gan Hafren Trent Gynllun Iaith? Maen nhw'n ymgynghori ar un - hynny yw mae dwy flynedd wedi pasio ers pennu cmwniau dwr yn gyrff cyhoeddus, ond dim ond un sydd â Chynllun Iaith ac roedd gan y cwmni hwnnw (Dwr Cymru) gynllun iaith beth bynnag. Faint o weithiau mewn blwyddyn ydych chi'n cysylltu â'ch cwmni dwr? Yn bersonol, braidd byth - dw i'n cael bil blynyddol unwaith y flwyddyn.

Roedd Alun Pugh mor falch ei fod wedi llwyddo pennu dau gmwni yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf yr Iaith ddwy flynedd yn ôl fel ei fod wedi cyfeirio at y weithred yn ei araith yn y ddadl ar Iaith Pawb yn y Cynulliad (11.07.06) fel 'defnydd creadigol' o'r Ddeddf, ond prysurodd i bwysleisio nad yw hyn o reidrwydd yn gynsail i'r cyfleustodau eraill (ac eithrio trenau, sy'n mynd i gael 'ystyriaeth ofalus'). A'r rheswm? Wel, mae gan y cwmniau dwr fonopoli. Does dim modd i'r 'cwsmeriaid' ddewis pa gwmni sy'n cyflenwi dwr. Rheswm digon teilwng. Ond mae'n cyferbynnu cwmniau dwr, lle nad oes dewis, â chwmniau nwy a thrydan, lle mae, yn ei dyb ef, ddewis. Yn y ddadl ceir y datganiad rhyfeddol hwn:

O ran pwer, er enghraifft, byddaf weithiau’n derbyn ambell lythyr yn dweud nad yw rhai cwmnïau trydan yn bilio pobl yn Gymraeg. Mae nifer o gwmnïau pwer yn barod i wneud hynny ac mae gan ddefnyddwyr gryn bwer yn y mater. Os nad yw cwmnïau yn barod i weithio yn y ddwy iaith genedlaethol ac yn gwrthod darparu’r gwasanaethau hynny, mae gan ddefnyddwyr bwer i brynu eu trydan gan gwmni sydd yn barod i wneud hynny.

Mae'r datganiad yn gwbl gamarweiniol ac mae'n dreuni nad oedd dim un Aelod Cynulliad arall yn gallu, mewn dull seneddol, ddweud bod hyn yn llond trol o gachu!.

Dw i'n deall bod Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â 14 o gwmniau pwer (heblaw Nwy Prydain) yn ddiweddar gan ofyn iddynt a ydynt yn dapraru gwasanaeth yn Gymraeg. Dim ond dau gwmni allan o'r 14 a atebodd. Gofynnodd npower i'r Gymdeithas ailanfon y cais yn Saesneg. Cafwyd ateb Cymraeg gan Atlantic yn dweud bod eu chwaer gwmni SWALEC yn cynhyrchu biliau Cymraeg. Felly, y dewis sydd gan y defnyddiwr hollalluog i gael rhyw faint o wasanaeth yn Gymraeg (a dyn ni ddim yn sôn am wasanaeth cynhwysfawr) yw rhwng Nwy Prydain a SWALEC, ac wrth gwrs, dyna'r ddau gorff a ddeilliodd o'r hen gyfleustodau gwladoledig. Felly pan ddywed Alun Pugh "nifer o gwmniau", yr hyn mae'n ei olygu yw "dau". Ac mae'r ffaith bod y ddau gwmni sy'n cynnig rhywfaint o wasanaeth Cymraeg yn hen gyflesutodau yn dangos nad yw rhyddfrydoli'r farchand ddim wedi esgor ar ragor o ddewis i siaradwyr Cymraeg.

Rhyw fath o barhad o'r hen ddyddie cyn rhyddfrydoli yw gwasanaethau cyfyngedig SWALEC a Nwy Prydain. Ond gwasanaeth sy'n edwino yw'r gwasanaeth hwn. Ar un adeg roedd biliau SWALEC yn dod yn awtomatig yn ddwyieithog, ond nawr mae'n rhaid gofyn am un yn Gymraeg (mae'r rheini yn cael eu hanfon alln i'w cyfieithu!) ond dim ond â'r bil go iawn, sef yr un Saesnwg y mae modd ichi dalu. Wrth ymestyn i gynnig gwasanaeth ffôn, mae'r biliau hynny yn uniaith Saesneg. Er hynny, mae SWALEC yn honni bod ganddynt "Gwasanaeth Cymraeg llawn".

Yn gynharach eleni, peidiodd Nwy Prydain ag anfon biliau Cymraeg at eu cwsmeriad busnes, er mwyn arbed arian. Cododd Hywel Williams AS hyn yn Senedd San Steffan, gan nodi bod Nwy Prydain Busnes wedi gwneud elw o £77 miliwn yn 2005. Yn ddigon diddorol, nid yw Nwy Prydain yn gweld newid yn y sefyllfa oni bai bod deddfwriaeth yn gorfodi hyn. Dyma a ddywedwyd mewn un llythyr:

"It may be the case that further legislation compelling energy suppliers to provide a fully bilingual service to business customers is necessary to reverse this decision"

Mae'n amlwg felly mai'r gorau y gall siaradwyr Cymraeg obeithio amdano gan y darparwyr nwy a thrydan yw gweddillion tameidiog, edwinol y dyddiau cyn-ryddfrydoli, felly pam mae Alun Pugh mor benderfynol o beidio â mynd ar ôl y cmwniau pwer? am yr un rheswm, mae'n debyg, ac mae'n canmol ymdrechion gwirfoddol Tesco, BT a'r Principality, hynny yw, achos cyfaill gorau Llafur Newydd yw Busnes Mawr.

"Mae’r bwrdd am barhau i weithio’n strategol i annog cwmnïau i ddefnyddio’r Gymraeg, o ran y fantais fusnes mae darparu gwasanaeth dwyieithog yn ei roi i gwmnïau fel BT, cymdeithas adeiladu’r Principality, a Tesco."

Mae'n wir bod gwefan y Principality yn llawer iawn mwy dwyieithog na lot o gwmniau yn y byd arian. Mae rhywfaint o Gymraeg, o chwilio amdani, ar wefan BT (diolch Ann!, ond mae gwefan Tesco yn gwbl amddifad o'r iaith.

Mae Tesco yn un o bytis mawr y Bwrdd. Mae Tesco yn noddi'r gwobrau dylunio dwyieithog y Bwrdd (beth am ddylunio gwefannau dwyieithog?!, yn gwerthu cardiau Santes Dwynwen y Bwrdd, ac yn cael eu cyfrif yn bobl dda yn gyffredinol ganddynt. Bob tro, mae Tesco yn rhechain yn Gymraeg, mae'r Bwrdd yno i roi cyhoeddusrwydd i'r cam mawr nesaf ymlaen yn hanes yr iaith. Wrth gwrs, mae Tesco, ym mherson Syr Terry Leahy, y prif weithredwr, hefyd yn un o bytis mawr Tony Blair. Mae Tesco wedi rhoi'n i'r Blaid Lafur ers cyfnod Blair, ac yn gyfnewid mae cyfarwyddwyr y cwmni yn aelodau o nifer o gyrff 'cynghorol' Llywodraeth y DU. Ffrind hael arall i Lafur Newydd yw'r cwmni pwer Scottish Power, sydd biau'r hen MANWEB. Yn naturiol, mae'r Blaid Lafur yn gorfod trin eu ffrindiau ym myd busnes yn ofalus a byddai'u llyffetheirio â gofynion i wario ychydig ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn bwyta i mewn i'w helw pitw.

Yn y ddadl ar Iaith Pawb, broliodd Alun Pugh ei fod wedi ciniawa gyda'r CBI a nifer o gwmniau mawr yn ddiweddar a'i fod wedi cael ar ddeall ganddynt nad oes awydd am ddeddf iaith, er syndod i bawb!

Cefais ginio diddorol yr wythnos ddiwethaf gyda’r CBI a nifer o gwmnïau mawr. Ar draws y sector breifat, nid oes awydd am ddeddfwriaeth newydd yn y maes hwn

Disgrifiad o George Monbiot o'r CBI yw: the monster with a thousand stomachs, that will never be satisfied. Disgrifiad addas o dan yr amgylchiadau! Mae'r CBI yn lobio'r Llywodraeth (yn Nghaerdydd ac yn Llundain) yn gyson i dorri i lawr ar reoleiddio a gwario llai ar bopeth, ond busnes. Diben busnes yw gwneud arian, ac os gall busnesau dorri allan unrhywbeth sy'n torri ar elw, maen nhw'n mynd i wneud hynny! Go brin eu bod yn mynd i dderbyn sbin y Bwrdd bod defnyddio'r Gymraeg yn fantais economaidd arwyddocaol.

Gan fod y Comisiwn Cystadleuaeth ar hyn o bryd yn ymchwilio i'r sector siopau bwyd, bydd yn ddiddorol gwybod beth fydd ymateb Alun Pugh os ceir bod yr archfarchnadoedd mawr, i bob pwrpas, yn ffurfio monopoli. Mae gan Tesco dros 30% o'r farchnad fel y mae. Mae'n wir mae'n rhai trefi bod gan Tesco fonopoli lleol. Felly, os pennwyd y cwmniau dwr yn gyrff cyhoeddus o dan y Ddeddf am fod ganddynt fonopoli, a fydd yr archfarchnadoedd yn dioedef yr un ffawd?