Pigogflog

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

diumenge, de juliol 23, 2006

Profi'r Plismyn



Bwriad y blog hwn oedd dweud pethau pigog am bobl a sefyllfaoedd, ond hei! mae'n ddydd Sul! Dw i'n mynd i fod yn gadarnhaol.

Newydd ddarllen y pwt isod am y prawf iaith i blismym y Gogledd.

Rhyfedd meddwl mai heddlu sy'n arwain ar bolisi iaith yng Nghymru ar hyn o bryd, ond dyma'r gwir. Heddlu'r Gogledd sydd ymhell ar y blaen, a Richard Brunstrom sydd â'r weledigaeth, ac yn bwysicach yr ewyllys i'w gweithredu. Mae'r prawf cychwynnol yn swnio'n isi-pisi ("noswaith dda bawb, beth sydd gynon ni yma 'ta?" a "Llanfairfechan"), wedi dweud hynny, fyddai hi ddim yn ddrwg o beth i gyflwynwyr radio a theledu orfod pasio prawf ynganiad enwau lleoedd! (Wps! Dechrau mynd yn bigog!)

Fel hyn mae'r cynllun. Maer' darpar blismyn yn gorfod pasio'r prawf syml cyn cael swydd, a byddan nhw'n gorfod pasio prawf anoddach ryw ddwy flynedd wedyn. Dyma'r hyn sy'n chwyldroadol: fydd neb yn cael dyrchafiad heb basio'r prawf! Ac yn fwy rhyfeddol byth, mae Ffederasiwn yr Heddlu, corff nad yw'n nodedig am ei syniadau blaengar, yn gefnogol. Mae hyn oll yn rhan o strategaeth 30 mlynedd - faint o gyrff cyhoeddus sydd â strategaeth mor hirdymor â hynny? Faint sydd ag unrhyw strategaeth o gwbl?

Dyma'r manylion recrwitio oddi ar wefan Heddlu'r Gogledd:

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd pob penodiad, yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru, yn amodol ar allu’r ymgeisydd i brofi fod ganddo ef/hi sgiliau sylfaenol yn yr iaith Gymraeg. Golyga hyn y dylai'r ymgeisydd fod â’r gallu i ynganu geiriau lleoedd yn gywir, i gyfarch pobl ac i ddangos cwrteisi ieithyddol sylfaenol. (Mewn perthynas â swyddi sy’n galw am lefel uwch o allu yn y Gymraeg, bydd y gofyniad hwn yn cael ei nodi'n glir). Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd cyrraedd y safon angenrheidiol, fodd bynnag caiff ef/hi gefnogaeth drwy gyfrwng pecyn dysgu o bell a gynhyrchwyd gan Heddlu Gogledd Cymru. Bydd y pecyn dysgu llawn yn cael ei anfon at yr ymgeisydd unwaith y bydd wedi pasio’r cam didoli papur. Bydd recriwtiaid newydd yn cael rhagor o hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg fel rhan o'r cwricwlwm hollgynhwysfawr.


Bues ar gwrs cyf-weld ryw dro yn y corff cyhoeddus lle dw i'n gweithio. Mewn ffug gyfweliad gofynnais i'r ffug ymgeisydd a oedd yn siarad Cymraeg. Yn y 'sesiwn adborth' , roedd fy adborthwyr yn gytun na chawn i ddim ofyn y fath gwestiwn 'gwahaniaethol'. Doedd fy nadl ein bod ni'n gorff cyhoeddus sy'n gwasanaethu Cymru gyfan gyda pholisi o 'gyflawni gwasanaethau' yn y ddwy iaith ddim yn ymddangos yn berthnasol. I'r 'adborthwyr', roedd y cwestiwn yn debyg i 'Gethoch chi'ch geni yn y Bala?' gyda'r ensyniad bod ateb cadarnhaol yn gyfystyr i roi'r job i 'un ohonon ni'.

Mae'n debyg ei bod yn haws i Richard Brunstrom, fel Sais sydd wedi dysgu'r iaith, gyflwyno polisi fel hyn nag y byddai i Gymro gwaed coch cyfa o berfeddion y Fro, achos dyw e ddim yn gofyn i neb wneud rhywbeth nad yw ei hun wedi'i wneud a does neb yn gallu'i gyhuddo o gadw swyddi i'w deulu estynedig. Dyma gyfle i bob Prif Weithredwr di-Gymraeg ddilyn ei eisampl. A chyfle i'r rhai Cymraeg symud oddi ar 'u tine a gwneud rhywbeth!

Mae Llywodraeth yn Cynulliad yn annog cydweithrediad rhwng cyrff cyhoeddus yng Nghymru i greu gwasanaeth cyhoeddus sy'n canolbywntio ar y dinesydd, ac yn ddigon clodwiw, un o'r egwyddorion sylfaenol i lywodraethu'r ymdrech hon yw cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a'r Saesneg (gw. Creu'r Cysylltiadau http://new.wales.gov.uk/about/strategy/makingtheconnections/?lang=cy). Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am hyn, dylai ystyried esiampl Heddu'r Gogledd a llunio profion iaith i bawb sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn digwydd yn arferol mewn sawl gwlad ddwyieithog arall. Gan fod pawb yng Nghymru bellach yn dysgu'r Gymraeg nes eu bod yn 16, byddai'n anodd dweud bod hyn yn camwahaniaethu a byddai'n rhoi gwerth ymarferfol i'r iaith i bobl sy'n tybio nad oes iddi ddefnydd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

http://www.north-wales.police.uk/nwp/public/en/blogs/viewblog2.asp?CID=3 (Os caf i fod yn bigog Richard, ble mae'r tudalen Cymraeg?!)

2 Sylw:

dywedodd Blogger Rhys Wynne

Dyma'i flog Cymraeg

Mae yn newyddion da ac arloesol (wel, di ddim yn arloesol - dim ond i'w gymharu ag ymgeisiau gwael sefydliadau eraill)

Yn rhyfedd ddigon, mis medi diwethaf cyhoeddodd llywodraeth Iwerddon eu bod yn llacio'r gofynion iaith Gwyddeleg i heddweision newydd (dolen o'm blog)

12:09 p. m.  
dywedodd Blogger Nwdls

Mae pob gwas sifil yng Ngwlad y Basg yn gorfod siarad Basgeg dan gyfraith y Rhanbarth Basg Anibynnol.

Os nad oedd rhywun oedd eisoes yn was sifil yn gallu siarad Basgeg pan weithredwyd y ddeddf, yna roeddent yn gorfod cymryd cwrs Basgeg (ar dâl llawn) nes iddynt allu. Dwi ddim yn siwr beth oedd yn digwydd wedyn os oeddent yn methu â dysgu Basgeg wedi hynnu cofia, ond mae'n esiampl glir o flaengarwch y wlad pan ddaw at bolisiau iaith.

Lecio dy flog gyda llaw. Darllen difyr.

2:31 p. m.  

Ychwanegu sylw

<< Hafan