Pigogflog

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

dissabte, d’agost 05, 2006

Trawsddwylliannu unffordd

Ie, dyna ydi o! Y diwylliant Prydeinig Saesneg yw'r prif ddiwylliant cyffredin i bawb ar yr Ynys hon. Mae'n iawn i chi gael eich diwylliant bach lliwgar chi, cyn belled â'i fod yn cydnabod ei le isradd yn y system ac nad yw'n ceisio cystadlu â'r prif ddiwylliant a chymryd ei le. Iawn i chi gael eich eisteddfodau, eich sianel deledu, a'ch cylchoedd chwarae, ond mae'n rhaid iddyn nhw fod ar agor i bawb [sef i'r mwyafrif Prydeinig Saesneg]. Hiliaeth ac elitiaeth yw cadw'r pethau hyn i chi'ch hun.
Felly, dylech foderneiddio'ch eisteddfodau, peidiwch â bod yn gul! Denwch y di-Gymraeg! Cyfieithwch bopeth iddyn nhw, fel bod nhw'n gallu bod yn siwr nad ydych chi ddim yn ddweud dim byd cas amdanon ni'r mwyafrif. Beth am gynnal ambell i gystadleuaeth yn Saesneg?
Peidiwch â llenwi'ch sianel â rhaglenni Cymraeg yn unig, bydd hynny'n cau allan 80% o boblogaeth Cymru, ac os oes rhaid i chi dangos pethe yn Gymraeg gwnewch yn siwr (a) eu bod yn ailbobiad o fethiant a fu ar sianel Saesneg; (b) is-deitlwch nhw! Hyd yn oed os nad yw'r gwylwyr Cymraeg eisiau'r is-deitlau, rhowch nhw lan! Bydd yn gyfle iddyn nhw wella'u Saesneg.
A beth sydd yn eich pennau chi, yn trefnu cylchoedd chwarae i blant Cymraeg yn unig?! Am hunanol! Rhaid ichi groesawu pawb, a does dim ots os yw'r cylch chwarae Cymraeg yn troi'n Saesneg - bod yn 'gynhwysol' yw hynny.
Ond cofiwch chi, er bod hawl gyda ni i gael mynediad i bob rhan o'ch diwylliant Cymraeg chi, chewch chi ddim cymryd rhan yn ein byd ni oni bai eich bod yn gollwng eich Cymraeg. Peidiwch disgwyl cael prynu'ch trydan yn Gymraeg, peidiwch disgwyl cael therapi lleferydd yn Gymraeg, a pheidiwch siarad Cymraeg o flaen y Brawd Mawr!