Rhyngwladol = Saesneg yn unig
Ym mis Mai 2007 ysgrifennwyd llythyr i'r Western Mail i gwyno am ddifyg defnydd o briod iaith Cymru yn ein maes awyr cenedlaethol ni - Cardiff International Airport Ltd. Atebodd y Cyfarwyddwr Rheoli, Jon Horne, drwy ddweud bod mwy o arwyddion Cymraeg nag erioed o'r blaen yn y maes awyr a bod hyn yn brawf bod annog y sector breifat, yn hytrach na'i gorfodi, i ddefnyddio'r Gymraeg yn llwyddo. Dyma wrth gwrs yw dadl Bwrdd yr Iaith Gymraeg: gwell annog na gorfodi. Mae'n wir bod rhai arwyddion Cymraeg yno, ac efallai yn wir bod mwy nag erioed o'r blaen, ond gwir plaen yw mai eithriadau prin yw arwyddion Cymraeg yno, ac nid oes sill o Gymraeg i'w chlywed yno. Dyma'r dystiolaeth. Anfonwch at: customer.relations@cwl.aero i gwyno.
2 Sylw:
wedi anfon ebost at yr maes awyr yn gofyn amdan yr sefyllfa a.y.y.b - aros am ateb nol wan.
da iawn...halais i lythyr y mis diwethaf a dw i byth wedi cael ateb:-(
Ychwanegu sylw
<< Hafan