Soniodd Carwyn Jones am achos Williams v Cowell ac Arall 1997 (EAT/0904/97) yn y Cynulliad
ddydd Mawrth wrth ateb y cwestiwn brys am Thomas Cook. Mae´r linc isod yn mynd â chi at fanylion yr achos gwreiddiol a´r achosion wedyn.
http://www.employmentappeals.gov.uk/Public/results.aspx?id=820Yn ôl â ni i Lanwnda yn 1996. Yn fras, yn yr achos hwnnw siarsiodd perchennog bwyty (Ms Lois Cowell) Gwilym Williams i siarad Saesneg gyda gweddill y staff (er eu bod i gyd yn gallu siarad Cymraeg) achos pan oedd hi yn y gegin roedd hi angen deall beth oedd yn mynd ymlaen. Gwrthododd Mr Williams gydymffurfio a chafodd y sac. Dygodd achos yn erbyn Mr a Mrs Cowell am gamwahaniaethu hiliol: (1) am iddo gael ei orfodi i siarad Saesneg gyda ei gydweithwyr Cymraeg;(2) iddo gael ei ddiswyddo am beidio â gwneud hynny.
Cytunodd y Tribiwnlys iddo fod yn destun camwahaniaethu hiliol ar y ddau gyfrif. Yn unol â dyfarniad mewn achos cynharach: Cyngor Sir Gwynedd v Jones ac arall (1996) ICR 833, daliodd y Triwbiwnlys fod y Cymry yn un grwp ethnig anwahanadwy at ddibenion adran 3 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. Mae hyn yn bwysig achos o safbwynt y gyfraith y mae´r Cymry, er nad yn hil fel y cyfryw, yn un grwp ethnig (boent yn siardwyr Cymraeg ai peidio).
Er y gellid dadlau y byddai Mr Williams wedi gallu cadw ei swydd drwy ildio i orchymyn Mrs Cowell gan ei fod
gallu siarad Saesneg - ei ddewis personol ef oedd siarad Cymraeg - daliodd y Tribiwnlys ei fod, er hynny, wedi dioddef colled:
"In the view of the Tribunal, the fact that the Applicant could, if he wished, have complied with Mrs Cowell’s requirement that he speak English does not in itself prevent that requirement from being a detriment. It is perhaps a matter of comment, if not universal, human experience that people feel a particular affinity for their mother tongue and use it as a matter of natural course when in the company of others of the same ethnic group.
In the view of the Tribunal the requirement of Mrs Cowell that the Applicant speak English to his Welsh-speaking colleagues in the kitchen did amount to subjecting him to a detriment. It must be remembered that there was no complaint against the Applicant that he refused to speak English to Mrs Cowell or that he ever refused to keep her fully informed of matters relevant to his work."Mae´r uchod yn arwyddocaol yng nghyd-destun Thomas Cook achos yn eu mawrfrydigrwydd dywedant nad ydynt yn bwriadu disgyblu neb am siarad Cymraeg yn y gweithle:
"Nid ydym yn bwriadu disgyblu unrhyw un am siarad Cymraeg yn y gweithle. ond ni fyddwn yn gwneud hynny chwaith". (o wefan Bwrdd yr Iaith)
Hywrach mai´r hyn sydd yn eu meddwl nhw yw´r ffaith bod Mr Williams wedi cael ei ddiswyddo am wrthod siarad Saesneg gyda chydweithwyr, ac wrth gwrs dyw Thomas Cook ddim yn bwriadu mynd mor bell â hynny. Ond rhaid i Thomas Cook sylweddoli bod y Tribiwnlys Diwydiannol yn achos
Cowell wedi dal bod mynnu bod cyflogai yn peidio â siarad Cymraeg gyda chydweithwyr Cymraeg yn y gweithle yn fater o gamwahaniaethu hiliol uniongyrchol ynddo ei hun o dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Mae´n wir bod y Tribiwynlys Apêl wedi cwestiynu beth yn union oedd natur y golled a ddiodefodd Mr Williams, ond nid oedd o fewn cylch gwaith y Tribiwnlys hwnnw i ystyried hynny yn fanwl.
Felly, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, er gwaethaf yr holl waith da gan Fwrdd yr Iaith ac er gwaethaf ymdrechion gwiw ein Cynulliad Cenedlaethol a´n Llywodraeth Genedlaethol, mae hi´n dal yn bosib i rywun meddwl ei bod yn bosibl ac yn rhesymol i wahardd siaradwyr Cymraeg rhag siarad aí gilydd yn Gymraeg yn y gweithle. Mae diffyg enfawr o ran ymwybyddiaeth, ond onid codi ymwybyddiaeth yw forte y Bwrdd? Y gwir trist yw nad oes dealltwriaeth drwy Gymru a´r tu hwnt am le´r iaith yn ein bywyd cenedlaethol. Fe fyddai Mesur Iaith Newydd yn anfon neges glir a diamwys i bawb yn y wlad bod y Gymraeg yn briod iaith Cymru aí bod yn iaith swyddogol at bob diben. Mae amser chwarae wedi dod i ben, mae´n bryd cymryd ein hawliau o ddifrif.