Pigogflog

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

dimecres, de juny 20, 2007

Rhyngwladol = Saesneg yn unig

Ym mis Mai 2007 ysgrifennwyd llythyr i'r Western Mail i gwyno am ddifyg defnydd o briod iaith Cymru yn ein maes awyr cenedlaethol ni - Cardiff International Airport Ltd. Atebodd y Cyfarwyddwr Rheoli, Jon Horne, drwy ddweud bod mwy o arwyddion Cymraeg nag erioed o'r blaen yn y maes awyr a bod hyn yn brawf bod annog y sector breifat, yn hytrach na'i gorfodi, i ddefnyddio'r Gymraeg yn llwyddo. Dyma wrth gwrs yw dadl Bwrdd yr Iaith Gymraeg: gwell annog na gorfodi. Mae'n wir bod rhai arwyddion Cymraeg yno, ac efallai yn wir bod mwy nag erioed o'r blaen, ond gwir plaen yw mai eithriadau prin yw arwyddion Cymraeg yno, ac nid oes sill o Gymraeg i'w chlywed yno. Dyma'r dystiolaeth. Anfonwch at: customer.relations@cwl.aero i gwyno.









dijous, de juny 14, 2007

Gwahardd y Gymraeg yn y Gweithle - Yn ôl i´r Ganrif Ddiwethaf

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!
Soniodd Carwyn Jones am achos Williams v Cowell ac Arall 1997 (EAT/0904/97) yn y Cynulliad
ddydd Mawrth wrth ateb y cwestiwn brys am Thomas Cook. Mae´r linc isod yn mynd â chi at fanylion yr achos gwreiddiol a´r achosion wedyn.

http://www.employmentappeals.gov.uk/Public/results.aspx?id=820

Yn ôl â ni i Lanwnda yn 1996. Yn fras, yn yr achos hwnnw siarsiodd perchennog bwyty (Ms Lois Cowell) Gwilym Williams i siarad Saesneg gyda gweddill y staff (er eu bod i gyd yn gallu siarad Cymraeg) achos pan oedd hi yn y gegin roedd hi angen deall beth oedd yn mynd ymlaen. Gwrthododd Mr Williams gydymffurfio a chafodd y sac. Dygodd achos yn erbyn Mr a Mrs Cowell am gamwahaniaethu hiliol: (1) am iddo gael ei orfodi i siarad Saesneg gyda ei gydweithwyr Cymraeg;(2) iddo gael ei ddiswyddo am beidio â gwneud hynny.

Cytunodd y Tribiwnlys iddo fod yn destun camwahaniaethu hiliol ar y ddau gyfrif. Yn unol â dyfarniad mewn achos cynharach: Cyngor Sir Gwynedd v Jones ac arall (1996) ICR 833, daliodd y Triwbiwnlys fod y Cymry yn un grwp ethnig anwahanadwy at ddibenion adran 3 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. Mae hyn yn bwysig achos o safbwynt y gyfraith y mae´r Cymry, er nad yn hil fel y cyfryw, yn un grwp ethnig (boent yn siardwyr Cymraeg ai peidio).

Er y gellid dadlau y byddai Mr Williams wedi gallu cadw ei swydd drwy ildio i orchymyn Mrs Cowell gan ei fod gallu siarad Saesneg - ei ddewis personol ef oedd siarad Cymraeg - daliodd y Tribiwnlys ei fod, er hynny, wedi dioddef colled:


"In the view of the Tribunal, the fact that the Applicant could, if he wished, have complied with Mrs Cowell’s requirement that he speak English does not in itself prevent that requirement from being a detriment. It is perhaps a matter of comment, if not universal, human experience that people feel a particular affinity for their mother tongue and use it as a matter of natural course when in the company of others of the same ethnic group. In the view of the Tribunal the requirement of Mrs Cowell that the Applicant speak English to his Welsh-speaking colleagues in the kitchen did amount to subjecting him to a detriment. It must be remembered that there was no complaint against the Applicant that he refused to speak English to Mrs Cowell or that he ever refused to keep her fully informed of matters relevant to his work."

Mae´r uchod yn arwyddocaol yng nghyd-destun Thomas Cook achos yn eu mawrfrydigrwydd dywedant nad ydynt yn bwriadu disgyblu neb am siarad Cymraeg yn y gweithle:

"Nid ydym yn bwriadu disgyblu unrhyw un am siarad Cymraeg yn y gweithle. ond ni fyddwn yn gwneud hynny chwaith". (o wefan Bwrdd yr Iaith)

Hywrach mai´r hyn sydd yn eu meddwl nhw yw´r ffaith bod Mr Williams wedi cael ei ddiswyddo am wrthod siarad Saesneg gyda chydweithwyr, ac wrth gwrs dyw Thomas Cook ddim yn bwriadu mynd mor bell â hynny. Ond rhaid i Thomas Cook sylweddoli bod y Tribiwnlys Diwydiannol yn achos Cowell wedi dal bod mynnu bod cyflogai yn peidio â siarad Cymraeg gyda chydweithwyr Cymraeg yn y gweithle yn fater o gamwahaniaethu hiliol uniongyrchol ynddo ei hun o dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol. Mae´n wir bod y Tribiwynlys Apêl wedi cwestiynu beth yn union oedd natur y golled a ddiodefodd Mr Williams, ond nid oedd o fewn cylch gwaith y Tribiwnlys hwnnw i ystyried hynny yn fanwl.

Felly, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, er gwaethaf yr holl waith da gan Fwrdd yr Iaith ac er gwaethaf ymdrechion gwiw ein Cynulliad Cenedlaethol a´n Llywodraeth Genedlaethol, mae hi´n dal yn bosib i rywun meddwl ei bod yn bosibl ac yn rhesymol i wahardd siaradwyr Cymraeg rhag siarad aí gilydd yn Gymraeg yn y gweithle. Mae diffyg enfawr o ran ymwybyddiaeth, ond onid codi ymwybyddiaeth yw forte y Bwrdd? Y gwir trist yw nad oes dealltwriaeth drwy Gymru a´r tu hwnt am le´r iaith yn ein bywyd cenedlaethol. Fe fyddai Mesur Iaith Newydd yn anfon neges glir a diamwys i bawb yn y wlad bod y Gymraeg yn briod iaith Cymru aí bod yn iaith swyddogol at bob diben. Mae amser chwarae wedi dod i ben, mae´n bryd cymryd ein hawliau o ddifrif.

dilluns, de juny 11, 2007

Hola. bon dia!

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Cyfarchion o Barcelona! Newydd dal i fyny gyda'r storom am Thomas Cook. Hoffwn ei gwneud yn glir NA wnes i fwcio fy nwgyliau drwy'r cwmni hwnnw! Ar y ffordd allan gwnes i dipyn o ymchwil ar ddwyieithrwydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan fod y Rheolwr wedi bod yn brolio'r cynnydd yn y Western Mail ac yn dadalu bod perswâd yn gallu cyflawni gymaint mwy. Doedd gen iddim rhewm i feddwl ei fod yn dweud y gwir, ond roeddwn i eisiau rhoi cyfle iddo. Hyd y gwelaf, does na ddim cynnydd wedi bod ers imi hedfan oddi yno dair blynedd yn ôl! Uniaith Saesneg yw'r arwydd mawr y tu allan i'r adeilad sy'n datgan Cardiff Wales International Airport. Mae ychydig o arwyddion dwyieithog wrth ichi fynd i mewn, ond mae mwy o arwyddion uniaith Saesneg. Does dim un arwydd dwyieithog yn y neuadd ar y llawer cyntaf, ac yn y lolfa ymadael ei hun, yr unig ddefnydd o'r iaith yw'r arwyddion yn i siop nwyddau di-doll -sydd hefyd yn cynnwys detholiad da o lyfrau Cymraeg a Chymreig gan y Lolfa. Uniaith Saesneg yw'r wybodaeth ar y sgrinau am awyrennau yn cyrraedd ac yn ymadael. Uniaith Saesneg yw'r cyhoeddiadau dros y tanoi - er bod y rhai diogelwch wedi'u rhag-recordio. Does na ddim byd sy'n anodd yn dechnegol am newid y sefyllfa hon dros nos ac ni fyddai'n costio swm anferthol, ond y gwir yw, er bod rheolwr y maes awyr yn pledio achos perswâd, fel y CBI, mae canlyniad neu ddiffyg canlyniad i'w weld yn eglur. Os yw perswad yn gweithio, ble mae'r canlyniadau?

Yng Nghatalwnia, mae 'na ddeddf iaith. Ym maes awyr Barcelona, mae pob arwydd yn dairieithog- Catalaneg, Sbaeneg a Saesneg. Mae'r cyhoeddiadau dros y tanoi yn dairieithog. Rydych chi'n gwybod eich bod chi yng Nghatalwnia. A dweud y gwir, mae pethau wedi mynd i'r fath eithafion 'ma, fel bod rhai pethau yn uniaith Gatalaneg, allwch chi gredu hynny?

Eniwe, digon o wleidyddiaeth iaith! Amser am gyntun bach....Fins aviat.....

dissabte, de juny 09, 2007

Y Siop Dsips yng Nghas-gwent (II)



Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!






Wel, dw i wedi bod draw yng Nghas-gwent ar drywydd siop dsips! A do, ffindes i un (gweler y llun gyferbyn). Uniaith Saesneg oedd yr arwydd a doedd dim gair o Gymraeg ar y fwydlen y tu fewn nag i'w glywed gan y staff na'r cwsmeriaid eraill. Ond, does dim byd rhyfedd yn hynny. Mae 'na siopau tsips tebyg ar draws y wlad - hyd yn oed yn y Gorllewin ger y lli! A bod yn onest, doedd proffil gweledol y Gymraeg yng Nghas-gwent ddim yn annhebyg i broffil yr iaith mewn lleoedd eraill lle mae canran uwch o lawer o siaradwyr Cymraeg. Roedd arwyddion y sector cyhoeddus at ei gilydd yn ddwyieithog - Canolfan Byd Gwaith, yr Heddlu, Cadw (ar gyfer y castell wrth gwrs - er doedd dim arweinlyfr Cymraeg ar gael...), y Ganolfan Groeso. Roedd arwyddion y cyfleustodau fel y rheilffyrdd a'r post hefyd yn ddwyieithog. Fel pob man y dyddiau hyn, roedd yno siop Tesco, gyda lefel o ddwyieithrwydd fyddai'n rhoi rhai o ganghennau'r brifddinas yn y cysgod. Roedd yr iaith yn brigo i'r wyneb yn Boots a W H Smith a'r banciau yn yr un ffordd. Geiriau (Cymraeg) gan Menna Elfyn, ymhlith eraill, yn addurno'r cerfluniau yn y Stryd Fawr. Roedd modd llymeitan yn Afon Gwy (y dafarn nid yr afon) a bwrw'r nos yn Ty Munud Diwethaf. Te "Cymreig" oedd yn nhebotiau St Mary's Street Tea Rooms ac roedd modd bwyta Welsh Breakfast yn un o'r tafarnau/bwytai. Ydy, mae Lloegr ochr draw i'r afon, ond mae Cas-gwent yng Nghymru.



Wrth edrych ar y botel hanner wag, mae'n dristwch bod ardaloedd eraill o Gymru lle mae'r iaith yn gyfrwng cymunedol fawr nes ymlaen na Chas-gwent o ran croesawu'r iaith i'r arena gyhoeddus. Dyna pam mae angen hwb mawr ymlaen - fel y 2.3 miliwn ewro y mae Llywodraeth Gwlad y Basg wedi neilltuo i hyrwyddo'r Fasgeg yn y gweithle!!! (Tybed ydy Thomas cook yn masnachu yno?) Mae'n glir bod Llafur Prydain yn gweld y Gymraeg fel iaith y gegin, iaith y buarth, ac iaith yr ysgol, ond heb fod yn ddigon parchus i gymryd ei lle ym myd mawr yr oedolion.




Bydd Gwenda Thomas yn parhau i hiraethu am dafotieth y glowyr a thishen lap ond yn cwestiynau a ddylid gwneud defnydd o'r iaith mewn pethau sy'n cyfrif (fel deddfwriaeth). Mae angen i'r Gymraeg gael ei lle ym mhob rhan o'n bywyd, ond nod Llafur Prydain yw cadw goruchafiaeth y Saesneg ym mhob pau.
















Wrth edrych ar y botel yn hanner llawn, o ystyried bod Lloegr namyn herc, cam a naid dros y bont, mae'n syndod pa mor Gymreig mae Cas-newydd yn teimlo. Er yr holl arwyddion Cymraeg dros y lle i gyd, doeddwn i ddim yn ymwybodol o unrhyw wrthryfel yn eu herbyn yn mudferwi ar lannau afon Gwy. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi llwyddo i stwffio'r arywddion dim ysmygu dwyieithog i bob man yn y wlad, heb eithrio Cas-gwent, drwy ddeddfwriaeth. Dw i'n siwr bod nifer wedi cwyno, ond pwy nad yw'n hoffi cwyno? Petai'r siop dsips rywbryd yn y dyfodol yn gorfod gwneud peth darpariaeth yn Gymraeg e.e. ychwanegu'r geiriau 'psygod a sglodion' i'r arwydd a rhoi bwydlen Gymraeg y tu fewn, a phetai modd i'r siop gael cymorth i wneud hynny drwy ryw ostyngiad yn y trethi busnes, dw i'n amau'n fawr a fyddai yna chwyldro yng Nghas-gwent. (Yn un peth, mae'r perchennog yn ymddangos yn oleuedig iawn mewn ffyrdd eraill drwy ei ymdrechion 'gwyrdd'). Codi dychryn yn ddi-sail y mae Rhodri Morgan a'i griw yn y ffordd mwyaf dan-din er mwyn hollti'r wlad. Yr unig ffordd yr erys y Blaid honno mewn grym yw bod yn blaid 'Southwales'. Hanfod 'Southwales' yw: dim Cymraeg.










divendres, de juny 08, 2007

BOICOTIWCH THOMAS COOK!

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!
Mae Thomas Cook ym Mangor wedi gwahardd ei staff Cymraeg rhag siarad â'i gilydd am y gwaith yn Gymraeg.
"Thomas Cook requests that all staff speak English when discussing work-related matters in the work place. This ensures clear communication at all times and is respectful to team members who do not speak other languages. Thomas Cook employs staff from many cultural backgrounds, therefore the company appreciates its staff may want to talk to colleagues in other languages for anything that is non business-related."
Oes angen Mesur Iaith newydd?


Y Siop Dsips yng Nghas-gwent

Deddf Iaith Newydd - Llofnodwch y ddeiseb!

Cwbl warthus oedd sylwadau ysgafala Rhodri Morgan yn y Senedd y diwrnod o'r blaen am y siop dships yng Nghas-gwent a'r Mesur Iaith newydd. Mae'n amlwg nad yw Mr Morgan na Mr Jones wedi darllen Mesur drafft y Gymdeithas neu fydden nhw ddim yn ei lurgunio drwy fynnu ei fod yn argymell gorfodi pob busnes i weithredu yn uniaith Gymraeg cyn gynted ag y deuai'r Mesur i rym. Y gwir yw bod y Mesur yn cymryd ystyriaeth o natur darparwr y gwasanaeth a natur ieithyddol yr ardal lle mae cwsmeriaid yn byw. Er enghraifft, ni ddisgwylid yr un lefel o wasanaeth yn Gymraeg gan fusnes oedd yn gwerthu deunyddiau rhwymo llyfrau yn Llanandras â siop fara yng Nghaernarfon. Byddai'r Mesur yn sicrhau bod 'na lefel sylfaenol o wasanaeth yn Gymraeg y gallai pawb yng Nghymru ddisgwyl ei gael gan bob darparwr, ond byddai manylion y lefelau uwch i'w pennu gan gorff cynrychioliadol a democrataidd. Gorfodaeth unffurf?


Lle mae'r Gymdeithas yn siarad yn aeddfed am hyblygrwydd, mae Llafur Prydain yn sôn yn blentynnaidd am ddewis rhwng gorfodaeth unffurf neu wneud bygar ôl. Dyna yw "dewis" iddyn nhw. Lle mae'r Gymdeithas actiwiali wedi eistedd i lawr a thrafod a llunio dogfen, beth mae Llafur Prydain wedi cynnig i'r broses? Y jôc o ddogfen o'r enw "Iaith Pawb"?


Petawn i'n byw yng Nghas-gwent, byddwn i'n grac iawn bod Rhodri Morgan wedi dweud (1) nad oes gan rhyw 10% i boblogaeth y dref (9.3 yn ôl y cyfrifiad diwethaf) unrhyw hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn siop dsips (2) nad oes neb o blith y 1000 o siaradwyr Cymraeg yn y dref ddigon o allu yn yr iaith i ofyn am dsips yn Gymraeg na deall yr ateb; a (3) bod trigolion y dref a pherchnogion y siopau tsips yn arbennig, mor wrth-Gymraeg fel y byddent yn barod i dorri'r gyfraith yn hytrach na dangos bwydlen yn Gymraeg yn y siop wedi cyfnod rhesymol o amser i wneud hynny.

Sut yn y byd mae aelodau o Blaid Cymru yn meddwl o ddifrif am mynd i glymblaid gyda chiwed mor dwp ac anegwyddorol â Llafur Prydain?